Lesley Griffiths AC 
 Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig
 Llywodraeth Cymru

29 Ionawr 2018

Annwyl Lesley,

 

Diweddariad digidol                       

 

Yn ddiweddar, cymerodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau dystiolaeth gan Julie James AC, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Whip ynghylch y diweddariad digidol ac yn benodol gyfyngiadau cynllunio ar fastiau.

 

Byddai'r Pwyllgor yn ddiolchgar am y wybodaeth ddiweddaraf am lle mae Llywodraeth Cymru arni o ran cyfyngiadau cynllunio, yn enwedig mewn perthynas â'r cynllun gweithredu i wella cysylltedd ffonau symudol?

 

Yn gywir,

 

Russell George AC

Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau